Judges 18

Llwyth Dan yn setlo yn Laish

1Doedd dim brenin yn Israel bryd hynny. Roedd llwyth Dan yn edrych am rywle i setlo i lawr. Doedden nhw ddim wedi llwyddo i gymryd y tir oedd wedi cael ei roi iddyn nhw, fel gweddill llwythau Israel. 2Felly dyma lwyth Dan yn anfon pump o ddynion dewr i ysbïo'r wlad. Dyma nhw'n gadael Sora ac Eshtaol, a cyrraedd tŷ Micha ym mryniau Effraim, a dyna ble wnaethon nhw aros dros nos.

3Dyma nhw'n clywed y dyn ifanc o lwyth Lefi yn siarad pan oedden nhw wrth dŷ Micha. Roedden nhw'n nabod ei acen. Felly dyma nhw'n galw heibio a dechrau ei holi, “Sut ddest ti yma? Beth wyt ti'n wneud yma? Beth ydy dy fusnes di?”

4A dyma fe'n dweud wrthyn nhw beth oedd Micha wedi ei wneud iddo. “Dw i wedi cael swydd ganddo, fel offeiriad,” meddai.

5“Oes gen ti neges gan Dduw i ni?” medden nhw. “Dŷn ni eisiau gwybod os byddwn ni'n llwyddiannus.”

6A dyma'r offeiriad yn ateb, “Gallwch fod yn dawel eich meddwl. Mae'r Arglwydd gyda chi bob cam o'r ffordd!”

7Felly dyma'r pump yn mynd ymlaen ar eu taith ac yn dod i Laish. Doedd y bobl oedd yn byw yno yn poeni am ddim – roedden nhw fel pobl Sidon, yn meddwl eu bod nhw'n hollol saff. Doedden nhw'n gweld dim perygl o gwbl a doedd neb yn eu bygwth nhw na dwyn oddi arnyn nhw. Roedden nhw'n bell oddi wrth Sidon i'r gorllewin, a doedd ganddyn nhw ddim cysylltiad hefo unrhyw un arall chwaith.

8Dyma'r dynion yn mynd yn ôl at eu pobl i Sora ac Eshtaol. A dyma'r bobl yn gofyn iddyn nhw, “Wel? Sut aeth hi?”

9A dyma nhw'n ateb, “Dewch! Dŷn ni wedi dod o hyd i le da. Dewch i ymosod arnyn nhw! Peidiwch eistedd yma'n diogi! Rhaid i ni fynd ar unwaith a chymryd y tir oddi arnyn nhw. 10Maen nhw'n meddwl eu bod nhw'n hollol saff. Mae yna ddigon o dir yna, ac mae Duw yn ei roi i ni! Mae popeth sydd ei angen arnon ni yna!”

11Felly dyma chwe chant o ddynion Dan yn gadael Sora ac Eshtaol, yn barod i frwydro. 12Dyma nhw'n gwersylla yn Ciriath-iearim yn Jwda. (Mae'r lle yn dal i gael ei alw yn Wersyll Dan hyd heddiw. Mae i'r gorllewin o Ciriath-iearim.) 13Yna dyma nhw'n mynd yn eu blaenau i fryniau Effraim a chyrraedd tŷ Micha. 14A dyma'r pum dyn oedd wedi bod yn chwilio'r ardal yn dweud wrth y lleill, “Wyddoch chi fod yna effod ac eilun-ddelwau teuluol yma, eilun wedi ei gerfio a delw o fetel tawdd? Beth ydych chi am ei wneud?”

15Felly dyma nhw'n galw heibio a mynd i dŷ y Lefiad ifanc oedd biau Micha, a'i gyfarch, “Sut mae pethau?”

16Roedd y chwe chant o filwyr yn sefyll wrth giât y dref. 17Tra roedd yr offeiriad yn sefyll yno gyda'r milwyr, dyma'r pum dyn oedd wedi bod yn ysbïo'r wlad yn torri i mewn i'w dŷ, a dwyn yr eilun wedi ei gerfio, yr effod, yr eilun-ddelwau teuluol a'r ddelw o fetel tawdd. 18Pan welodd yr offeiriad nhw, dyma fe'n gofyn, “Beth ydych chi'n wneud?”

19A dyma nhw'n dweud wrtho, “Paid dweud dim! Tyrd gyda ni. Cei di fod yn gynghorydd ac offeiriad i ni. Fyddai hi ddim yn well cael bod yn offeiriad i lwyth cyfan yn Israel nag i deulu un dyn?” 20Roedd yr offeiriad wrth ei fodd. Cymerodd yr effod, eilun-ddelwau'r teulu a'r eilun wedi ei gerfio a mynd gyda nhw.

21I ffwrdd â nhw gyda'r plant, yr anifeiliaid a'r eiddo i gyd ar y blaen. 22Yna pan oedden nhw wedi mynd yn reit bell o dŷ Micha, dyma Micha a chriw o ddynion oedd yn gymdogion iddo yn dod ar eu holau. 23Dyma nhw'n gweiddi arnyn nhw. A dyma ddynion Dan yn troi a gofyn, “Beth sy'n bod? Pam dych chi wedi dod ar ein holau ni?”

24Dyma Micha'n ateb, “Dych chi wedi dwyn y duwiau dw i wedi eu gwneud, a'r offeiriad, a cherdded i ffwrdd! Beth sydd gen i ar ôl? Sut allwch chi ddweud, ‘Beth sy'n bod?’”

25Ac medden nhw wrtho, “Well i ti gau dy geg – mae yna ddynion milain yma, a byddan nhw'n dod ac yn dy ladd di a dy deulu!”

26Yna dyma nhw'n troi a mynd yn eu blaenau ar eu taith.

Pan sylweddolodd Micha eu bod nhw'n gryfach na'r criw o ddynion oedd gyda fe, dyma fe'n troi am adre.

27Aeth pobl llwyth Dan yn eu blaenau i Laish, gyda'r offeiriad a'r delwau roedd Micha wedi eu gwneud. Dyna lle roedd pobl Laish, yn gweld dim peryg o gwbl ac yn meddwl eu bod yn hollol saff. A dyma milwyr Dan yn ymosod arnyn nhw, ac yn llosgi'r dref yn ulw. 28Doedd neb yn gallu dod i'w helpu nhw. Roedden nhw'n rhy bell o Sidon i'r gorllewin, a doedd ganddyn nhw ddim cysylltiad hefo unrhyw un arall. Roedd y dref mewn dyffryn oedd ddim yn bell o Beth-rechof.

Dyma lwyth Dan yn ailadeiladu'r dref, a symud i fyw yno. 29Cafodd y dref ei galw yn Dan, ar ôl eu hynafiad, oedd yn un o feibion Israel. Laish oedd yr hen enw arni.

30Dyma bobl Dan yn gosod yr eilun wedi ei gerfio i fyny i'w addoli, ac yn gwneud Jonathan (oedd yn un o ddisgynyddion Gershom, mab Moses) yn offeiriad. Roedd ei deulu e yn dal i wasanaethu fel offeiriaid i lwyth Dan adeg y gaethglud! 31Roedd llwyth Dan yn dal defnyddio'r eilun gafodd ei wneud gan Micha i'w addoli, yr holl amser roedd cysegr Duw yn Seilo.

Copyright information for CYM